Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

HSC(4)-33-12 papur 2

 

Yr wybodaeth ddiweddaraf o'r UE: (i) Rhaglen Waith y Comisiwn Ewropeaidd 2013; a'r (ii) Adolygiad o Gydbwysedd Cymwyseddau rhwng yr UE a'r DU

 

Papur i'w nodi:

 

Dyddiad y papur

27 Tachwedd 2012

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Paratowyd y papur hwn gan Swyddfa'r UE.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gregg Jones (ffôn. 0032 2 226 6692) E-bost: Gregg.Jones@cymru.gov.uk



 

Cynnwys

 

 

1.      Cyflwyniad. 3

2.      Diben a chynnwys y wybodaeth hon. 3

3.      Rhaglen Waith y Comisiwn Ewropeaidd 2013 (WP2013) 3

3.1.  Proses ddeinamig yn canolbwyntio ar fentrau sydd ar ddod. 3

3.2.  Prif amcanion a mentrau ar gyfer 2013. 4

3.3.  Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru (a llywodraethau eraill y DU) 4

3.4.  Meysydd o ddiddordeb posibl i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol 5

4.      Adolygiad o Gydbwysedd Cymwyseddau ar lefel yr UE a'r DU. 6

 


 

1.        Cyflwyniad

O dan y Pedwerydd Cynulliad, cafodd materion Ewropeaidd eu prif ffrydio (fel sy'n berthnasol) i waith yr holl bwyllgorau, a bellach nid oes pwyllgor arweiniol yn gyfrifol am Faterion Ewropeaidd ac Allanol.

Gellir cymryd rhan ym materion yr UE mewn nifer o ffyrdd:

¡  Cymryd rhan yn y broses bolisi/ddeddfwriaethol (gan gynnwys mynd i'r afael â sybsidiaredd a phryderon eraill yn ogystal ag edrych ar fanylion polisi ac effaith bosibl cynigion)

¡  Asesu cyfranogiad sefydliadau o Gymru mewn rhaglenni ariannu'r UE a dulliau eraill o gydweithio

¡  Meincnodi a dysgu o arferion gorau/gwahanol mewn mannau eraill yn Ewrop (ymagwedd o edrych tuag allan ar ffurfio polisi yng Nghymru)

Un o'r dulliau safonol ar gyfer adnabod blaenoriaethau o ran gwaith yr UE ar gyfer Pwyllgorau yw Rhaglen Waith flynyddol y Comisiwn Ewropeaidd, sy'n cael ei chyhoeddi yn ystod yr hydref fel arfer (mis Hydref/Tachwedd), ac mae hyn yn dod o fewn cwmpas y cyntaf o'r pwyntiau bwled a restrir uchod.

2.        Diben a chynnwys y wybodaeth hon

Mae'r wybodaeth hon yn darparu trosolwg o'r prif ddatblygiadau sy'n berthnasol i waith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn fersiwn ddiweddaraf Rhaglen Waith y Comisiwn Ewropeaidd 2013 (WP2013), a gyhoeddwyd ar 23 Hydref[1]. Mae hefyd yn cyfeirio at nifer o fentrau sydd ar fynd ac a ddygwyd ymlaen o Raglenni Gwaith blaenorol y Comisiwn Ewropeaidd ac sy'n parhau i fod yn berthnasol.

Yn olaf, mae'n cynnwys adran ar Adolygiad Llywodraeth y DU o'r Cydbwysedd Cymwyseddau rhwng yr UE a'r DU, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf ac a gaiff ei gyflawni dros y ddwy flynedd nesaf.

Noder fod briffiau hefyd yn cael eu darparu ar gyfer pwyllgorau eraill y Cynulliad. 

Camau arfaethedig:

Gofynnir i Aelodau nodi cynnwys y papur.

 

3.        Rhaglen Waith y Comisiwn Ewropeaidd 2013 (WP2013)

3.1.         Proses ddeinamig yn canolbwyntio ar fentrau sydd ar ddod

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn gweld y Rhaglen Waith fel dogfen ddeinamig: caiff ei diweddaru yn fisol, ac fe'i hategir gan amrywiol ‘fapiau' sy'n darparu mwy o fanylion am bob un o'r cynigion sydd wedi'u cynnwys (ac sy'n cael eu hychwanegu yn ystod y flwyddyn). Felly, nid yw'r cyhoeddiad blynyddol, o angenrheidrwydd, yn cynnwys yr holl gynigion a gaiff eu cyhoeddi yn ystod y flwyddyn, gan y gall rhai eraill gael eu hychwanegu wrth iddynt 'aeddfedu' (tra bydd eraill efallai, yn dod oddi ar y rhestr neu'n cael eu hoedi).

Hefyd, dim ond gwybodaeth am fentrau a gynlluniwyd neu fentrau sydd ar ddod sy’n cael ei chynnwys yn y Rhaglen Waith. Ar ôl i gynnig gael ei gyhoeddi ni fydd yn ymddangos yn Rhaglen Waith y flwyddyn nesaf hyd yn oes os yw'r cynnig yn parhau i gael ei drafod neu ei negodi gyda Senedd Ewrop a Chyngor y Gweinidogion.

Dyna'r achos gyda nifer o goflenni allweddol gan gynnwys y trafodaethau ar Fframwaith Ariannol Amlflwydd 2014-2020, a'r amrywiol raglenni ariannu sy'n dod o fewn hwn (fel Cronfeydd Strwythurol yr UE, y Polisi Amaethyddol Cyffredin ac ati).

3.2.         Prif amcanion a mentrau ar gyfer 2013

Mae saith amcan cyffredin ar gyfer WP2013, gyda'r mentrau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol sydd wedi'u cynllunio wedi'u grwpio o dan yr amcanion hyn:

¡  Cael y sylfeini'n gywir: tuag at Undeb Economaidd ac Ariannol wirioneddol 

¡  Hybu cystadleuaeth drwy'r Farchnad Sengl a pholisi diwydiannol

¡  Cysylltu er mwyn cystadlu: Adeiladu rhwydweithiau yfory heddiw

¡  Twf ar gyfer swyddi: Cynhwysiant a rhagoriaeth

¡  Defnyddio adnoddau Ewrop i gystadlu'n well

¡  Adeiladu Ewrop ddiogel

¡  Tynnu'n pwysau: Ewrop fel gweithredwr byd-eang

Cafodd y mentrau hyn eu cynnig yn ystod cyfnod o ansicrwydd mawr yn yr UE, o ganlyniad i'r argyfwng ariannol ac economaidd parhaus a'r ansefydlogrwydd yn Ardal yr Ewro. Mae'r agenda'n canolbwyntio'n arw ar ddarparu swyddi a thwf, a gosod y sylfeini i symud tuag at undeb economaidd ac ariannol agosach o fewn Ardal yr Ewro.

3.3.         Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru (a llywodraethau eraill y DU)

Mae Llywodraeth y DU yn paratoi memoranda esboniadol, mewn ymgynghoriad â'r Gweinyddiaethau Datganoledig (fel yr ystyrir yn briodol), ynghylch yr holl ohebiaeth ddeddfwriaethol ac anneddfwriaethol sy'n dod o Frwsel.

Paratowyd Memorandwm Esboniadol Llywodraeth y DU ar gyfer WP2013[2] y Comisiwn Ewropeaidd ar 13 Tachwedd, ac mae'n cyfeirio at safbwyntiau Llywodraeth Cymru  (a Llywodraeth y DU, Gweithrediaeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon) ar y blaenoriaethau arfaethedig.

Nodir y canlynol ar gyfer Cymru:

…The Welsh Government welcomes the Work Programme’s focus on sustainable growth and jobs as being broadly consistent with the approach in its Programme for Government. In particular, the Welsh Government welcomes the proposals to boost competitiveness, including through the strengthening of the Single Market, access to finance for SMEs and investing in networks for telecoms, energy and transport. The Welsh Government similarly agrees with the promotion of social inclusion and the raising of skills levels as being one of the priorities of the European semester. The Welsh Government’s central organising principle is sustainable development and it therefore supports the Commission’s focus on the better use of resources and measures including new proposals to provide a long-term perspective on the move to a low-carbon economy and a new strategy on the adaptation to climate change. [Paragraph 9]

3.4.         Meysydd o ddiddordeb posibl i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae'n amlwg o'r adrannau uchod mai'r economi yw'r brif flaenoriaeth ar gyfer 2013, gyda'r pwyslais ar greu swyddi a thwf, tra bod pwyslais cryf hefyd ar goflenni amgylcheddol.

Mae llai o ddiddordeb yng ngwaith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac awgrymir ein bod yn 'cadw llygad' ar y mentrau hynny a amlygir isod, gan nad yw'r rhain yn debygol o fod â blaenoriaeth uchel o'u cymharu â'r gwaith arall ar agenda'r Pwyllgor ar gyfer 2013:

Mentrau sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol o fewn WP2013:

¡  Defnyddio techneg clonio anifeiliaid ar gyfer cynhyrchu bwyd [cynigion deddfwriaethol] - tynnwyd sylw'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd at hyn hefyd gan ei bod yn fwy tebygol iddo ddod o fewn cylch gwaith y pwyllgor hwnnw na'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

¡  Cynhyrchion cyfansawdd a hylendid archwilio cig [Cynigion deddfwriaethol]:

-     yn dilyn adolygiad (2009) o'r broses o roi Pecyn Hylendid Bwyd yr UE 2004 ar waith, mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn cynnig diwygio'r ddeddfwriaeth hon i wneud nifer o welliannau (gan gynnwys rhoi cwmpas mwy clir ar gyfer asesiadau 'sy'n seiliedig ar risg', lleihau'r baich gweinyddol, rhoi eglurder ar rai diffiniadau/arferion)

Mentrau sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol nad ydynt yn dod o fewn WP2013:

¡  Strategaeth Awtistiaeth ar gyfer Ewrop:

-     Mae Awtistiaeth Cymru, Partneriaeth Awtistiaeth y Gwledydd Celtaidd ac Awtistiaeth Ewrop yn lobïo i lywyddiaeth Iwerddon o’r UE geisio mabwysiadu casgliadau'r Cyngor ar awtistiaeth, a fyddai'n galw am sefydlu strategaeth awtistiaeth i'r UE gyfan [anneddfwriaethol]

Mentrau eraill sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac sy'n cael eu dwyn ymlaen o WP2012[3]:

¡  Rhaglen Iechyd ar gyfer Twf yr UE 2014-2020: prif offeryn ariannu pwrpasol yr UE ar gyfer iechyd cyhoeddus. Mae'r cynigion a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2011 yn mynd drwy broses gwneud penderfyniadau'r UE

¡  Moderneiddio Cyfarwyddebau Caffael Cyhoeddus yr UE: goblygiadau posibl newidiadau yn neddfau'r UE i'r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Cafodd y cynigion eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2011 ac mae'r rhain yn mynd drwy broses ddeddfwriaethol yr UE.  Cynhaliodd Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad ymchwiliad (drwy grŵp gorchwyl a gorffen) gan gyhoeddi'i adroddiad ym mis Mai 2012.

4.        Adolygiad o Gydbwysedd Cymwyseddau ar lefel yr UE a'r DU[4]

Ar 12 Gorffennaf cyhoeddodd William Hague, Ysgrifennydd Tramor Llywodraeth y DU ei fwriad i gynnal adolygiad o Gydbwysedd Cymwyseddau rhwng yr UE a'r DU, o fewn cyd-destun y trafodaethau parhaus ynghylch trefn lywodraethu'r UE yn y dyfodol:

…The crisis in the Eurozone has intensified the debate in every country on the future of Europe and there is no exception here. Now is the right time to take a critical and constructive look at exactly which competences lie with the EU, which lie with the UK, and whether it works in our national interest.

This will be a thorough and analytical piece of work, involving many Government Departments and taking evidence from representatives from business and other interest groups, the British public and our EU and global partners. I want to take stock of the impact of the EU on our country based on a detailed assessment of those things that derive from EU law that affect us in the UK. [pages 4-5, foreword of Review document published 12 July]

Ar 23 Hydref gwnaeth yr Ysgrifennydd Tramor ddatganiad yn nodi cynlluniau mwy manwl ar y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cynnal yr adolygiad dros y ddwy flynedd nesaf.

Caiff yr adolygiad ei gynnal dros bedwar tymor sy'n gorgyffwrdd, gyda phob tymor yn mynd i'r afael â nifer o faterion polisi thematig, gan ddod â'r adolygiad i ben erbyn diwedd 2014. Nodir y meysydd hynny sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol isod (mae manylion llawn ar gael o wefan Llywodraeth y DU):

Tymor 1: Hydref 2012-Haf 2013

¡  Iechyd

¡  Hylendid Bwyd (rhan o'r adolygiad o Les Anifeiliaid a Hylendid Bwyd)

Tymor 2: Gwanwyn 2013-Gaeaf 2013

Dim byd yn berthnasol i'r Pwyllgor

Tymor 3: Gwanwyn 2013-Haf 2013

¡  Marchnad Fewnol (gwasanaethau - o bosibl yng nghyd-destun mesurau i ddileu rhwystrau rhag rhedeg marchnad fewnol ar gyfer gwasanaethau o fewn yr UE)

¡  Cymdeithasol a chyflogaeth (o bosibl yng nghyd-destun y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith a deddfwriaeth yn ymwneud â chyflogaeth sy'n effeithio ar weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol)

Tymor 4: Gwanwyn 2014-Hydref 2014

Dim byd sy'n arbennig o berthnasol i'r Pwyllgor

Ym mhob un o'r meysydd hyn, bydd Adran berthnasol o Lywodraeth y DU yn arwain, gan gynnal yr adolygiad mewn ymgynghoriad ag 'arbenigwyr, sefydliadau ac unigolion sy'n dymuno rhoi eu barn ar bob mater'.

Bydd yr adolygiad yn:

…look at the EU’s competences (the power to act in particular areas conferred on it by the EU Treaties), how they are used, and what that means for Britain and our national interest.

The process will be comprehensive, well-informed and analytical. Government departments will be tasked with consulting Parliament and its committees, business, the devolved administrations, and civil society to look in depth at how the EU’s powers work in particular areas. [Page 12 of the Review document published on 12 July]

Nid oes cyfeiriad manwl at gynnwys y 'deddfwrfeydd datganoledig' yn y broses hon, er y cyfeirir at Senedd y DU a'r 'gweinyddiaethau datganoledig’, ym mhapur Llywodraeth y DU.

Un llwybr y gall y Pwyllgor fod yn dymuno ei ystyried ar gyfer cymryd rhan yn yr Adolygiad fyddai defnyddio sesiynau Gweinidogol Llywodraeth Cymru fel ffordd o egluro sut mae Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan yn yr adolygiad (neu sut mae'n bwriadu gwneud hynny) ac a fydd yn gwneud hynny.

 



[1] COM(2012)629. Ar gael ar dudalennau Rhaglen Waith y Comisiwn Ewropeaidd gwefan y Comisiwn Ewropeaidd.

[2] Memorandwm Esboniadol Llywodraeth y DU 15691/12, dyddiedig 13 Tachwedd 2012

[3] Darparwyd manylion am y rhain yn y wybodaeth ddiweddaraf o'r UE i'r Pwyllgor (RS111855) ar gyfer ei gyfarfod ar 8 Rhagfyr 2011

[4] Mae manylion ar gael (gan gynnwys y cyhoeddiadau y cyfeirir atynt yn yr adran hon) ar dudalennau gwe Cydbwysedd CymwyseddauLlywodraeth y DU